National Savings and Investments
 


Media centre /

Press release

CYNILION A BUDDSODDIADAU CENEDLAETHOL YN LANSIO GWEFAN GYMRAEG

10 December 2002

Mae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (CBC), y darparwr cynilion a gefnogir gan y llywodraeth, wedi lansio fersiwn Gymraeg o’i wefan yn www.nsandi.com. Gallwch fynd at y wefan trwy glicio ar ‘Cymraeg’ ar y dudalen hafan.

Mae CBC yn cynnig sicrwydd 100% i’w gwsmeriaid gan fod yr holl arian a fuddsoddir yn cael ei gefnogi gan Drysorlys EM. Mae’r cynnyrch yn amrywio o Fondiau Premiwm i Dystysgrifau Cynilo rhydd o dreth a gellir eu prynu mewn unrhyw gangen o Swyddfa’r Post yng Nghymru.

Mae’r wefan yn cynnwys sianel fasnach newydd sbon, er mwyn i gwsmeriaid gael gwneud cais ar lein i brynu chwech o gynhyrchion CBC: Mini ISA Arian, Tystysgrifau Cynilo Llog Sefydlog, Bondiau Cynilo Cyfradd Sefydlog, Bondiau Incwm, Tystysgrifau Cynilo Mynegrifol a Bondiau Incwm Gwarantedig Pensiynwyr. Bydd mwy o gynhyrchion ar gael ar lein yn y dyfodol agos.

Mae yna gyfle hefyd i ddeiliaid yr 1 miliwn o Fondiau Premiwm yng Nghymru ddarganfod a ydyn nhw wedi ennill gwobrau yn y chwe mis diwethaf, neu a oes yna unrhyw wobrau heb eu hawlio. Yng Nghymru, mae cyfanswm o £850,000 o wobrau Bond Premiwm heb eu hawlio ar hyn o bryd, gan gynnwys 34 gwobr gwerth £1,000 ac 88 gwobr gwerth £500.

Gall ymwelwyr â’r safle ddefnyddio Cymorth i Ddewis Cynnyrch CBC, sy’n helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i’r cynnyrch ariannol mwyaf addas sydd gan CBC i’w gynnig iddyn nhw. Mae Cyfrifiannell Fuddsoddi hefyd ar gael i gwsmeriaid gael gweld beth fyddai eu hadenillion ar fuddsoddiad cyfradd warantedig neu un sy’n cynhyrchu incwm gyda CBC.

DIWEDD

Nodyn i’r Golygyddion

  • Ymholiadau cwsmeriaid Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol: 0845 964 5000.
  • I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Mark Brooks 020 7348 9301 mark.brooks@nsandi.com
Jonathan Akerman 020 7348 9433 jonathan.akerman@nsandi.com
Samantha Bennett 020 7348 9654 sam.bennett@nsandi.com
Wendy Franklin 020 7348 9449 wendy.franklin@nsandi.com

Llinell y Wasg 24-awr: 07778 966387

Media team
NS&I has a number of spokespeople available for interviews and our experienced radio team is available via our ISDN line: 020 7602 4522.

The numbers below are for media use only. Customers wishing to contact NS&I can find details here.

Gill Stephens 020 7348 9449
gill.stephens@nsandi.com
Iman Asante 020 7348 9301
iman.asante@nsandi.com
Angela Mason 020 7348 9433
angela.mason@nsandi.com

ISDN for interviews

020 7602 4522

Out of hours

All numbers above diverted to staffed mobile phones
 

Back to top

 Home    Print    Email to a friend  

Search