 |
 |
 |
 |
|
|
Amodau safle a datganiadau cyfreithiol
/
Amodau defnyddio’r safle
- Anelir y wybodaeth a welir ar y wefan hon at bobl sy'n byw yn y DU, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw yn unig. Ni ddylid ei ystyried yn gynnig nac yn erfyniad i brynu na gwerthu buddsoddiadau mewn unrhyw awdurdodaeth ar wahân i'r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw. Drwy ddefnyddio'r wefan hon cymerir eich bod wedi cytuno i weithredu'n unol â'r amodau hyn a bernir eich bod wedi cadarnhau eich bod yn byw yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.
- Yn arbennig, nid yw'r wybodaeth a welir ar y wefan hon wedi'i hanelu at bobl lle mae angen caniatâd y llywodraeth neu ganiatâd arall, neu lle mae angen cydymffurfio ag unrhyw ffurfioldeb er mwyn gwneud hynny, neu lle byddai'n anghyfreithlon i ni wneud hynny, ac ni ddylid ei ystyried yn gynnig nac yn erfyniad i brynu na gwerthu buddsoddiadau mewn unrhyw awdurdodaeth o'r fath. Dylai pobl sy'n byw yn rhywle ar wahân i'r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw gysylltu â'u cynghorwyr proffesiynol i weld a oes angen iddynt gael caniatâd y llywodraeth neu ganiatâd arall, neu a oes angen iddynt gydymffurfio ag unrhyw ffurfioldeb er mwyn edrych ar y wefan neu er mwyn buddsoddi mewn un o'r buddsoddiadau a welir ar y wefan.
- Mae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (CBC) yn gwneud popeth i sicrhau bod y wybodaeth a gyhoeddir ar y wefan yn gywir adeg ei chyflwyno ac yn cael ei diweddaru'n rheolaidd. Ond nid yw'n gwarantu cywirdeb na chyflawnrwydd unrhyw wybodaeth o'r fath ac fe all newid y wybodaeth o bryd i'w gilydd heb rybudd. Yn benodol nid yw CBC yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth ar y wefan sy'n cael ei darparu gan drydydd parti, nac am gynnwys unrhyw wefan arall y daethoch chi at y wefan hon ohoni neu y gallwch chi gael hypergyswllt iddi o'r wefan hon. Ni ddylid dibynnu ar y wybodaeth wrth ystyried unrhyw benderfyniad buddsoddi. Ni ddylid dehongli cynnwys y wefan hon fel cyngor cyfreithiol, treth neu ariannol. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, siaradwch â'ch cynghorydd proffesiynol eich hun.
- Rydych chi'n defnyddio'r wefan hon ar eich menter eich hun. Ni fydd CBC yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddigwydd o ganlyniad i ddefnyddio'r wefan hon. Nid yw CBC yn addo y bydd y wefan hon ar gael bob adeg nac y byddwch yn gallu ei chyrchu'n ddi-dor na heb unrhyw fethiant. Ni all CBC addo na fydd gwybodaeth sy'n cael ei throsglwyddo yn cael ei cholli nac na fydd firysau neu ddeunydd dinistriol arall yn cael eu hanfon.
- Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis parhaol a rhai dros dro. Edrychwch ar ein polisi Cyfrinachedd i gael esboniad o’n defnydd o gwcis.
- Gwefan a ddiogelir gan Lywodraeth y DU yw hon. Mae ei chyrchu heb awdurdod, neu ei haddasu, yn drosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Felly, mae'n anghyfreithlon i chi achosi difrod iddi yn fwriadol neu ddifrodi unrhyw gyfleuster neu ddata electronig CBC trwy drosglwyddo unrhyw raglen, gwybodaeth, cod neu orchymyn yn fwriadol.
- Diogelir y deunydd a welir ar y wefan hon gan hawlfraint y Goron oni nodir fel arall. Gellir atgynhyrchu deunydd hawlfraint y Goron a ddiogelir yn ddi-dâl mewn unrhyw ffurf neu gyfrwng (ac eithrio logos yr Arfbais Brenhinol a logos adrannau neu asiantaethau) ar yr amod y caiff ei atgynhyrchu'n fanwl gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Pan fo unrhyw eitemau hawlfraint y Goron ar y wefan hon yn cael eu hailgyhoeddi neu eu copïo, rhaid nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod y statws hawlfraint.
- Nid yw'r hawl i atgynhyrchu deunydd y Goron yn cynnwys unrhyw ddeunydd ar y wefan hon sy'n cael ei ddynodi'n hawlfraint trydydd parti. Rhaid cael awdurdod i atgynhyrchu deunydd o'r fath gan y perchnogion hawlfraint perthnasol.
- I gael mwy o wybodaeth am drefniadau polisi a thrwyddedu hawlfraint y Goron, darllenwch yr arweiniad ar wefan Llyfrfa ei Mawrhydi (HMSO) yn: www.hmso.gov.uk/guides.htm.
- Nod Masnach y Cyfarwyddwr Cynilion yw Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol.
- Rhaid darllen pob tudalen ar y wefan yn unol â'r amodau defnyddio hyn.
|
 |
|