![]() |
Ein hystod
/
Bondiau Premiwm
/
Buddsoddi’n rheolaiddBellach mae ffordd o ychwanegu at eich buddsoddiad mewn Bondiau Premiwm a chynyddu’ch siawns o ennill gwobrau rhydd o dreth – trwy archeb sefydlog fisol. Ar ôl i chi brynu Bondiau Premiwm am y tro cyntaf ac rydym wedi anfon eich rhif deiliad atoch, fe anfonwn fanylion atoch am sut i ddechrau buddsoddi’n rheolaidd. Os ydych eisoes yn dal Bondiau Premiwm, a hoffech fuddsoddi’n rheolaidd ffoniwch ni ar 0845 964 5000 ac fe anfonwn fanylion atoch. Yr hyn y mae angen i chi ei wybod cyn buddsoddi’n rheolaidd:
Beth sy’n digwydd nesafAr ôl i chi dderbyn y ffurflen archeb sefydlog oddi wrthym, llenwch hi a’i phostio neu ewch â hi i’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu. Ar ôl sefydlu’r archeb sefydlog, fe anfonwn Fondiau atoch bob mis, yn fuan wedi i ni gael bob taliad. Cofiwch roi gwybod i ni os byddwch yn newid eich cyfeiriad fel y gallwn sicrhau bod eich Bondiau yn parhau i’ch cyrraedd. |
ChwilioBuddsoddwch nawrManteision
Canllaw Buddsoddwyr
Diogelwch
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||||

