National Savings and Investments
 
Ein hystod / Bondiau Premiwm /

Cyfraddau llog

Dau jacpot gwerth £1 miliwn yr un o 1 Awst 2005

Rydym yn cynnal cystadleuaeth tynnu rhifau bob mis gyda jacpot o £1 miliwn yn ogystal â mwy na miliwn o wobrau eraill rhydd o dreth, yn ôl yr ods cyfredol. Po fwyaf o Fondiau sydd gennych, gorau oll yw eich cyfle o ennill. Mae maint y gronfa wobrau bob mis yn gyfwerth ag un mis o log ar gyfanswm gwerth pob Bond cymwys, yn ôl y gyfradd flynyddol a ddangosir

Cyfradd llog   Gwybodaeth dreth
3.40%   All prizes are tax-free

Ods

Penderfynir nifer y gwobrau ym mhob cystadleuaeth tynnu rhifau drwy rannu nifer y Bondiau cymwys gwerth £1 gyda nifer a bennir gan y Trysorlys, fel y dangosir isod. Mae’r rhif yn pennu’r ods o ennill sydd gan bob Bond werth £1 yn y gystadleuaeth tynnu rhifau fisol

Nifer a bennir   Ods
22,000   22,000 to 1

Gwobrau

Rhennir y gwobrau ar gyfer pob cystadleuaeth tynnu rhifau yn dri band — gwerth uwch, gwerth canolig a gwerth is. Dengys y tabl isod y ganran o’r gronfa a ddyrennir i bob band gwobrau, ynghyd ag amcangyfrif o nifer y gwobrau o bob gwerth ar gyfer cystadleuaeth mis Mawrth 2007.

Estimate for prize draw in 2008

Band gwobrau   Gwerth y wobr   Nifer y
gwobrau
Gwerth uwch
6% o'r gronfa wobrau
  £1 million   2
  £100,000   8
  £50,000   18
  £25,000   33
  £10,000   83
  £5,000   167
Gwerth canolig
5% o'r gronfa wobrau
  £1,000   2,061
  £500   6,183
Gwerth is
89% o'r gronfa wobrau
  £100   189,836
  £50   1,456,191
Cyfanswm 2008   £103.1 million   1,654,582

Gweler y telerau ac amodau am fanylion llawn o sut rydym yn dyrannu’r gwobrau o fewn pob band gwobrau.

Newidiadau i gronfa wobrau Bondiau Premiwm

Mae’r gyfradd llog a ddefnyddir i gyfrifo’r gronfa wobrau, nifer y jacpotiau, y gyfran o’r gronfa wobrau a ddyrennir i bob band gwobrau a’r siawns i bob uned £1 o ennill gwobr i gyd yn newidiol, felly mae’n bosibl y byddant yn newid o bryd i’w gilydd. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau trwy roi rhybudd mewn ystod o bapurau newydd cenedlaethol a rhoi manylion ar y wefan hon.

 Hafan    Argraffu    E-bostio i gyfaill