![]() |
Ein hystod
/
Bondiau Premiwm
/
Hanes Bondiau PremiwmYn ei Gyllideb ar 17 Ebrill 1956, cyhoeddodd Harold Macmillan y byddai Bondiau Premiwm yn cael eu lansio er mwyn gostwng chwyddiant ac i annog cynildeb ymhlith y rheiny yr oedd ennill gwobrau nid ennill llog yn mynd â’u pryd. Prynwyd y Bond cyntaf gan yr Henadur Syr Cuthbert Ackroyd, a fu’n ddiweddarach yn Arglwydd Faer Llundain, ar 1 Tachwedd 1956. Erbyn diwedd y diwrnod cyntaf gwerthwyd gwerth £5 miliwn. Cynlluniwyd peiriant i ddewis y rhifau a fyddai’n ennill gwobrau, ERNIE, sef Offer Electronig ar gyfer Dewis Rhifau ar Hap. Erbyn y gystadleuaeth gyntaf a gynhaliwyd ym mhencadlys y Bondiau Premiwm yn Lytham St Anne’s, Swydd Gaerhirfryn, ddydd Sadwrn 1 Mehefin 1957, roedd £82 miliwn wedi’u buddsoddi. Erbyn diwedd mis Awst 1957, roedd y swm a fuddsoddwyd wedi cyrraedd £100 miliwn. Y brif wobr yn y gystadleuaeth gyntaf oedd £1,000. Yn y blynyddoedd cynnar, Bondiau Premiwm oedd loteri’r dydd; byddai enwogion yn cynnwys Bruce Forsyth, Bob Hope a’r Fonesig Judi Dench yn cyhoeddi’r prif wobrau ac roeddent yn boblogaidd fel anrhegion yn ogystal â modd i gynilo. Fodd bynnag, er y 1990au, mae Bondiau Premiwm wedi cael adfywiad sylweddol, gyda’r swm a fuddsoddwyd ynddynt yn codi o £4 biliwn ym 1994 i £25 biliwn yn 2004. Yn 2003/04, prynwyd gwerth £7.5 biliwn o Fondiau Premiwm |
ChwilioBuddsoddwch nawrManteision
Canllaw Buddsoddwyr
Diogelwch
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||||

