|
Ein hystod
/
Bondiau Premiwm
/
Bondiau Premiwm - Buddsoddwch nawrGallwch wneud cais ar-lein nawr — mae’n hawdd ac yn ddiogel, ac ni fydd yn cymryd ond ychydig o funudau i’w lenwi. I ddechrau gweneud cais, rhowch dic yn y blwch isod i gadarnhau eich bod yn cytuno â’r telerau ac amodau, ac yna cliciwch “Ymlaen” ar waelod y sgrin. Bydd angen y canlynol arnoch:
Sylwch na allwch brynu Bondiau Premiwm ar-lein ar ran plentyn. Cliciwch yma am ffyrdd o wneud cais ar ran plentyn. Oherwydd rheoliadau hapchwarae a loteri y tu allan i’r DU, o’r DU, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw yn unig y gall CBC dderbyn ceisiadau. 31 Hydref 2005 Disgrifiad a rhyddhad rhag treth1. Mae Bondiau Cynilo Premiwm Cyfres B (“Bondiau”) yn warant Llywodraeth y DU a gyhoeddir mewn unedau o £1 o dan Ddeddf Benthyciadau Gwladol 1968. Nid ydynt yn ennill llog ond fe’u cynhwysir mewn cystadlaethau tynnu rhifau i ennill gwobrau ariannol. Mae’r gwobrau hyn yn rhydd o holl Dreth Enillion Cyfalaf a Threth Incwm y DU. 2. Mae’r Bondiau yn dod o dan Reoliadau Bondiau Cynilo Premiwm 1972 (Rhif Offeryn Statudol: 1972/765) fel y'u diwygir neu eu hailddeddfir o bryd i'w gilydd (gweler paragraff 33). Os yw’r amodau a’r telerau hyn yn wahanol i’r Rheoliadau, y Rheoliadau fydd yn ddilys. Diffiniadau3. Yn y telerau ac amodau hyn: (a) ystyr “Cyfarwyddwr” yw’r Cyfarwyddwr Cynilion; (b) ystyr “CBC” yw Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (Cynilion Cenedlaethol gynt) yn gweithredu trwy ei swyddfa yn Blackpool neu unrhyw swyddfa arall y gall y Cyfarwyddwr ei phennu; (c) ystyr “swyddfa bost” yw cangen o Swyddfa’r Post Cyf yn y DU neu awdurdodau’r post yn Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw; (d) ystyr “newyddiaduron” yw Newyddiaduron Llundain, Caeredin a Belfast. Cystadlaethau tynnu rhifau4. Mae cronfa wobrau ar gyfer pob mis sy’n gyfwerth â llog un mis ar bob uned Bond sy’n gymwys ar gyfer y gystadleuaeth y mis hwnnw. Mae’r gyfradd llog yn cael ei phennu o dro i dro gan y Trysorlys. Cyhoeddwyd y gyfradd gyfredol yn y newyddiaduron a chyhoeddir unrhyw newid i’r gyfradd hefyd yn y newyddiaduron. Mae’r gyfradd gyfredol i’w gweld hefyd yn ein taflen Cyfraddau Llog sydd ar gael mewn swyddfeydd post ac o CBC, ac ar ein gwefan www.nsandi.com. 5. Bydd nifer y gwobrau sy’n gymwys yng nghystadleuaeth tynnu rhifau bob mis yn cael ei gyfrifo trwy rannu cyfanswm yr unedau Bond sy’n gymwys ar gyfer y gystadleuaeth honno gan rif penodedig (“yr ods”) fel a ganlyn: cyfanswm yr unedau Bond cymwys = cyfanswm y gwobrau ods ar gyfer y gystadleuaeth Y Trysorlys sy’n pennu'r rhif penodedig o bryd i’w gilydd. Cyhoeddwyd y rhif penodedig cyfredol yn y newyddiaduron a chyhoeddir unrhyw newid i’r rhif penodedig hefyd yn y newyddiaduron. Mae’r rhif penodedig cyfredol i’w weld hefyd yn ein taflen Cyfraddau Llog sydd ar gael mewn swyddfeydd post ac o CBC, ac ar ein gwefan www.nsandi.com. 6. Rhennir y gwobrau yn dri band gwerth: uwch, canolig ac is. Dangosir y rhain isod gyda gwerthoedd unigol y gwobrau yn y bandiau:
Y Trysorlys sy’n penderfynu o bryd i’w gilydd cyfran ganrannol y gronfa wobrau fisol a ddyrennir i bob band (yn amodol ar unrhyw newidiadau sy’n ofynnol yn ôl paragraffau 7 i 10). Cyhoeddwyd y gyfran ganrannol gyfredol yn y newyddiaduron a chyhoeddir unrhyw newid iddynt hefyd yn y newyddiaduron. Mae’r gyfran ganrannol gyfredol i’w gweld hefyd yn ein taflen Cyfraddau Llog sydd ar gael mewn swyddfeydd post ac o CBC ac ar ein gwefan www.nsandi.com. I brynu ffoniwch 0500 007 007* neu ewch i www.nsandi.com 7. Band gwerth uwch – Defnyddir y gyfran a ddyrennir i’r band hwn i ariannu o leiaf un wobr o £1,000,000 a rhennir y gweddill yn gyfartal rhwng gweddill y gwerthoedd gwobrau. Mae nifer y gwobrau gwerth £1,000,000 i’w gweld yn ein taflen Cyfraddau Llog sydd ar gael mewn swyddfeydd post ac o CBC, ac ar ein gwefan www.nsandi.com Cyfrifir nifer y gwobrau sy’n weddill o bob gwerth trwy rannu swm y gyfran â gwerth y wobr. Yna bydd unrhyw weddill sy’n llai na hanner gwerth y wobr yn cael ei ddwyn ymlaen i gyfrifiad gwerth y wobr is nesaf. Os bydd gweddill unrhyw gyfran yn hanner gwerth y wobr o leiaf, rhoddir gwobr ychwanegol o’r gwerth hwnnw, a chymerir y swm sy’n brin o’r arian sydd wedi’i ddyrannu ar gyfer gwerth y wobr nesaf. Cyfrifir y gwobrau £5,000 yn y modd hwn hefyd, gydag unrhyw swm dros ben neu ddiffyg yn cael ei gario drosodd i neu o’r gyfran a ddyrennir i’r band gwerth canolig. (Ond gweler paragraff 10). 8. Band gwerth canolig – Cyfrifir gwobrau ar gymhareb o un wobr £1,000 am bob tair gwobr £500. Bydd unrhyw arian dros ben yn cael ei ychwanegu at y gyfran a ddyrennir i’r band gwerth is. (Ond gweler paragraff 10). 9. Band gwerth is – Dosberthir gwobrau £100 a £50 ar sail dyfarnu’r nifer mwyaf posibl o wobrau £100 yn gyson â chyfanswm y gwobrau a gyfrifir o dan baragraff 5. Bydd unrhyw arian dros ben yn cael ei ddwyn ymlaen i gystadleuaeth tynnu rhifau’r mis nesaf. 10. Os na fydd dyraniad y gronfa wobrau fisol rhwng y gwobrau o werth uwch, canolig ac is yn talu cost dyfarnu’r gwobrau fel y’u cyfrifir o dan baragraff 5, gall y Cyfarwyddwr gynyddu’r gyfran o’r gronfa wobrau a ddyrennir i’r band gwerth is ar draul y bandiau gwerth uwch a chanolig i’r graddau sy’n angenrheidiol i sicrhau bod y nifer gywir o wobrau ar gael. Cymhwyster Bondiau am wobrau11. Bydd Bond yn cael ei gynnwys ym mhob cystadleuaeth tynnu rhifau o’r ail fis ar ôl y mis y gwnaethoch chi ei brynu neu os gwnaethoch chi brynu’r Bond o dan fandad ailfuddsoddi gwobr yn awtomatig (gweler paragraff 22), y mis ar ôl i chi ei brynu, ar yr amod ym mhob achos nad yw’r Bond wedi’i ad-dalu cyn diwrnod cyntaf y mis hwnnw. 12. Ar ôl i Fond gymhwyso ar gyfer ei gystadleuaeth tynnu rhifau gyntaf, caiff ei gynnwys ym mhob cystadleuaeth, oni bai: (a) ei fod wedi’i ad-dalu cyn diwrnod cyntaf mis y gystadleuaeth tynnu rhifau; neu (b) bod y deiliad cofrestredig wedi marw dros flwyddyn cyn mis y gystadleuaeth tynnu rhifau. 13. Os dewisir uned Bond £1 fwy nag unwaith mewn cystadleuaeth tynnu rhifau, dyfernir iddo’r wobr uchaf y mae ganddo hawl iddi. 14. Ni fydd unrhyw Fond a brynir uwchlaw’r terfyn dal uchaf o £30,000 yn gymwys ar gyfer unrhyw gystadleuaeth tynnu rhifau nes bydd y daliad yn cael ei ostwng i’r terfyn uchaf. Cyhoeddi a phennu gwobrau15. Cyhoeddir rhifau cyfres Bondiau buddugol ar wefan CBC. Caiff deiliaid cofrestredig Bondiau buddugol eu hysbysu trwy’r post yn y cyfeiriad diwethaf a gofnodwyd ar eu cyfer yn CBC. Am y rheswm hwn, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni yn brydlon pan fyddwch yn newid eich cyfeiriad. 16. Y Cyfarwyddwr sydd â’r hawl i farnu ar bob mater sy’n ymwneud â’r ffordd y cynhelir y gystadleuaeth tynnu rhifau a’r ffordd y rhennir y gwobrau. Mae ei benderfyniad yngl?n â pha Fondiau sy’n ennill gwobrau yn derfynol. Pwy all brynu Bondiau a’u dal17. Dim ond yn enw un unigolyn y gellir dal Bondiau. Gallwch brynu Bondiau ar yr amod eu bod: (a) ar eich cyfer chi eich hun os ydych yn 16 oed neu’n h?n; (b) ar gyfer plentyn sydd o dan 16 oed os ydych yn rhiant, nain, taid, hen nain, hen daid, neu warcheidwad y plentyn; neu (c) ar ran ac yn enw person ag anhwylder meddyliol os chi yw ei (d)derbynnydd. 18. Ni ellir trosglwyddo Bondiau ar unrhyw adeg. Wedi marwolaeth deiliad, bydd gwerth y Bondiau yn rhan o ystâd y deiliad ymadawedig. *Gellir gwneud ceisiadau dros y ffôn mewn Saesneg yn unig Sut i brynu Bondiau19. Gallwch brynu Bondiau trwy wneud cais dros y rhyngrwyd, dros y ffôn neu drwy'r post i swyddfa CBC; neu’n bersonol mewn unrhyw swyddfa bost sy'n ymdrin â busnes CBC. Pan fyddwch yn gwneud cais dros y rhyngrwyd neu dros y ffôn, a dyma’ch cais cyntaf i brynu Bondiau, bydd yn rhaid i chi gadarnhau eich cais trwy lofnodi a dychwelyd ffurflen gadarnhau y byddwn yn ei hanfon atoch drwy’r post. Trwy dderbyn ein telerau ac amodau, rydych yn cadarnhau eich bod chi, ac unrhyw un arall a enwir ar y ffurflen gais yn ymwybodol y bydd eich enw a’ch cyfeiriad chi a’u henw a’u cyfeiriad hwythau yn cael eu gwirio fel y nodir yn y llyfryn gwerthu Bondiau Premiwm. Efallai y byddwn yn ysgrifennu atoch i ofyn am dystiolaeth ddogfennol o’ch enw a’ch cyfeiriad hefyd. Bydd y ffurflen a/neu lythyr a fydd yn gofyn am dystiolaeth o’ch enw yn nodi o fewn pa gyfnod y bydd angen dychwelyd y ffurflen a/neu’r dystiolaeth i CBC. Os na dderbynnir y ffurflen a/neu’r dystiolaeth gan CBC o fewn y cyfnod penodedig ni fydd y Cyfarwyddwr yn gallu prosesu’ch cais. Rhown wybod i chi os bydd hyn yn digwydd. 20. Ym mhob achos, mae cais i brynu yn amodol ar gael ei dderbyn gan y Cyfarwyddwr: os ydych yn gwneud cais mewn swyddfa bost, ni ellir derbyn y cais nes y caiff ei brosesu yn swyddfa CBC. Os caiff ei dderbyn, y dyddiad buddsoddi fydd: (a) ar gyfer ceisiadau sy’n cael eu hanfon trwy’r post, y dyddiad y cyrhaeddodd eich cais a’ch taliad CBC; (b) ar gyfer ceisiadau dros y rhyngrwyd, y dyddiad y cafodd CBC eich cais ar-lein, gan gynnwys awdurdod am daliad cerdyn debyd; (c) ar gyfer ceisiadau dros y ffôn, y dyddiad cyntaf y nododd CBC fanylion eich cais, gan gynnwys awdurdod am daliad cerdyn debyd; (d) ar gyfer ceisiadau mewn swyddfa bost, y dyddiad y cafwyd eich cais a’ch taliad yno. Cynllun Prynu Rheolaidd21. Os ydych eisoes yn dal Bond, gallwch, yn amodol ar derfyn dal uchaf (gweler paragraff 26), brynu Bondiau ychwanegol yn unol â’r telerau a’r amodau hyn trwy Gynllun Prynu Rheolaidd Bondiau Premiwm. O dan y Cynllun gallwch brynu bondiau ar sail fisol ond £50 bydd y lleiafswm ar gyfer bob pryniant yn hytrach na’r lleiafswm arferol sef £100. Bydd yn rhaid i bob pryniant o fwy na £50 fod yn lluosrif o £10. Rhaid talu am y Bondiau trwy archeb sefydlog o’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn eich enw. Anfonwn mandad archeb sefydlog atoch fel y gallwch chi ei anfon yn uniongyrchol i’ch banc neu gymdeithas adeiladu’n eu hawdurdodi i wneud y taliadau. Gan dybio bod y taliad yn £50 o leiaf ac yn lluosrif o £10, anfonwn y Bondiau newydd a brynwyd gyda’r taliad hwnnw yn awtomatig i’r cyfeiriad diwethaf a gofnodwyd ar eich cyfer gan CBC. Y dyddiad prynu fydd y dyddiad y bydd y taliad yn cyrraedd cyfrif y Cyfarwyddwr ym Manc Lloegr. Os bydd unrhyw daliad yn llai na £50 neu ddim yn lluosrif o £10 fe’i anfonir yn ôl i’ch banc yn gyflawn. Gallwch ganslo eich archeb sefydlog ar unrhyw adeg heb orfod rhoi gwybod i CBC. Anfonwn delerau ac amodau newydd atoch os gwneir unrhyw newidiadau yn y dyfodol. Nid yw’r Cynllun Prynu Rheolaidd ar gael ar gyfer pryniannau ar ran plant o dan 16 oed. Ailfuddsoddi gwobrau22. Mae’n bosibl y bydd CBC yn cynnig cynllun i brynu Bondiau trwy ailfuddsoddi gwobrau’n awtomatig. O dan gynllun o’r math hwn, byddai’n rhaid i chi roi mandad i ni (“mandad ailfuddsoddi gwobrau yn awtomatig”) er mwyn defnyddio unrhyw wobrau byddwch yn eu hennill er mwyn prynu Bondiau newydd yn eich enw chi (am fanylion am unrhyw gynllun cyfredol cysylltwch ag CBC). 23. Ar gyfer pob pryniant, byddwn yn anfon tystysgrif fuddsoddi atoch a fydd yn cynnwys y gwerth a’r dyddiad y’u prynwyd. Terfynau prynu a dal24. Gallwch brynu Bondiau mewn lluosrifau o £10 (deg uned o £1) yn unig. Y lleiafswm y gellir ei brynu ar unrhyw adeg yw £100 (can uned o £1) neu £50 (hanner can uned o £1) pan brynir o dan y Cynllun Prynu Rheolaidd neu fandad ailfuddsoddi gwobrau yn awtomatig. 25. Nid yw’r terfynau prynu a nodir ym mharagraff 24 yn gymwys pan brynir trwy fandad ailfuddsoddi gwobr yn awtomatig a bydd y pryniant yn golygu bod gwerth y daliad wedi cyrraedd y terfyn uchaf (gweler paragraff 26). Telir unrhyw weddill gwobr trwy warant. 26. Ni allwch ddal mwy na £30,000 (deng mil ar hugain o unedau £1). Gosodir y terfyn hwn gan y Rheoliadau a gellir ei newid o bryd i’w gilydd. I brynu ffoniwch 0500 007 007* neu ewch i www.nsandi.com Ad-dalu Bondiau27. Caiff Bondiau eu had-dalu ar sail pris eu prynu trwy wneud cais yn ysgrifenedig i CBC. Fel arfer, fe’u had-delir trwy gredyd uniongyrchol i gyfrif banc (gan gynnwys y Banc Cynilion Cenedlaethol) neu gymdeithas adeiladu yn eich enw chi. Bydd yn rhaid i chi roi manylion am gyfrif o’r math hwn yn eich cais am ad-daliad. Mae’r Cyfarwyddwr yn bwriadu defnyddio Gwasanaeth Clirio Bancwyr Wedi’i Awtomateiddio (BACS) i’r diben hwn, ond mae’n cadw’r hawl i ddefnyddio unrhyw ddull arall o drosglwyddo’n electronig. 28. Y dyddiad y telir Bond fydd y dyddiad, yn ôl y drefn arferol, y cai’r taliad ei gredydu i’r cyfrif a enwir ar ôl i’r Cyfarwyddwr roi’r trosglwyddiad electronig ar waith. Yn achos BACS, bydd hyn fel arfer ddau ddiwrnod bancio ar ôl i’r Cyfarwyddwr roi’r trosglwyddiad ar waith. 29. Lle bydd y Cyfarwyddwr yn rhoi trosglwyddiad electronig ar waith yn gywir, ni fydd ef na’r Trysorlys yn gyfrifol am; (a) unrhyw fethiant neu oedi ar ran y banc neu gymdeithas adeiladu sy’n cael yr arian wrth gredydu’r cyfrif a enwir; (b) unrhyw fethiant neu oedi mewn unrhyw ran o’r broses drosglwyddo electronig sydd y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol y Cyfarwyddwr, gan gynnwys unrhyw fethiant sy’n digwydd oherwydd na all y cyfrif penodedig dderbyn trosglwyddiad electronig. 30. Gellir gofyn am daliad trwy warant wedi’i chroesi (fel siec). Mewn achosion o’r fath, cymerir mai’r dyddiad ar y warant yw dyddiad ad-dalu’r Bond. Talu gwobrau31. Fel arfer telir gwobrau trwy warant wedi’i chroesi neu, mewn achosion lle bydd mandad ailfuddsoddi gwobrau’n awtomatig wedi’i lenwi, drwy brynu Bondiau newydd. Newidiadau i’r telerau a’r amodau hyn32. Trwy roi o leiaf dri mis o rybudd yn y newyddiaduron, mae’r Trysorlys yn cadw’r hawl i: (a) newid gwerthoedd gwobrau unigol a ddisgrifir ym mharagraff 6; (b) newid darpariaethau paragraff 12 sy’n ymwneud â chymhwyster Bond i’w gynnwys mewn cystadleuaeth tynnu rhifau ar ôl marwolaeth y deiliad cofrestredig; ac (c) datgan bod unrhyw Fondiau a brynwyd ar ddyddiad a nodir yn y rhybudd, neu cyn hynny, yn anghymwys ar gyfer cystadlaethau pellach. Rheoliadau33. Ar 31 Hydref 2005, roedd y Rheoliadau Bondiau Cynilo Premiwm 1972 (Rhif Offeryn Statudol 1972/765) wedi eu diwygio gan yr Offerynnau Statudol hyn:
Y gyfraith ac awdurdodaeth34. Bydd y telerau ac amodau hyn ac unrhyw gytundeb a wneir ar eu sail yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfraith Lloegr. 35. Yn amodol ar baragraffau 36 a 37, bydd gan lysoedd Lloegr awdurdodaeth unigryw i ddatrys unrhyw anghydfod (gan gynnwys hawliadau cydbwyso a gwrth-hawliadau) a all godi mewn perthynas â’r telerau ac amodau hyn neu unrhyw gytundeb a wneir ar eu sail ac sydd, yn amodol ar y Rheoliadau, yn cael ei benderfynu gan lys cyfraith. 36. Lle bo adran 16 o Ddeddf Awdurdodaeth Sifil a Dyfarniadau 1982 yn gymwys, llys cyfraith perthnasol yn y rhan berthnasol o’r Deyrnas Unedig fydd ag awdurdodaeth i ddatrys unrhyw anghydfod o’r fath. 37. Mae paragraffau 35 a 36 yn cael eu cynnwys er budd CBC. Yn unol â hyn, mae CBC yn cadw’r hawl i ddwyn achos mewn unrhyw lys arall sydd ag awdurdodaeth yr ymostwng y deiliad yn derfynol iddo. Bondiau Premiwm 31 Hydref 2005 Rwyf yn derbyn y telerau ac amodau dyddiedig 31 Hydref 2005. Rwyf yn caniatáu bod f’enw a’m cyfeiriad yn cael eu gwirio fel y nodwyd o dan Prawf o’ch enw a’ch cyfeiriad. Os byddwch yn penderfynu, ar ôl buddsoddi yn eich Bond, nad yw’n bodloni’ch anghenion, rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod ar ôl derbyn ein llythyr croeso ac fe’ch helpwn ni i newid i fuddsoddiad arall neu’n ad-dalu eich arian. * Naill ai drwy’r post i Premium Bonds, National Savings and Investments, Blackpool, FY3 9YP, neu drwy ffacs ar 01253 793767 neu drwy e-bost i customerenquiries@nsandi.com. |
Chwilio |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||
