|
|
Cyfrinachedd a diogelwch
/
Polisi cyfrinacheddMae Cynilion a Buddsoddiadau cenedlaethol wedi ymrwymo i gadw’ch gwybodaeth bersonol yn ddiogel ac yn gyfrinachol. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn caniatáu defnyddio’r wybodaeth hon yn unol â’r darpariaethau canlynol
Gwybodaeth bersonolNid yw’r wefan hon yn cipio nac yn storio gwybodaeth bersonol, ac eithrio’r hyn rydych chi yn ei ddatgelu wrth gyflwyno ffurflen. Nid yw offer megis cyfrifianellau, yn storio’r wybodaeth rydych yn ei darparu. Mae’n bosibl y byddwn yn cofnodi nifer y defnyddwyr sy’n mynd i rannau cyhoeddus o’r wefan, ond ni fydd hyn yn eich dynodi chi. Yn ôl i frig y dudalen
Diogelwch dataPan fyddwch yn dod yn gwsmer i ni, byddwn yn trin yr holl wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch yn breifat ac yn gyfrinachol. Ni fyddwn yn rhoi unrhyw fanylion amdanoch chi neu’ch buddsoddiadau i unrhyw un nad ydynt yn gysylltiedig â Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol oni bai:
Mae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn cael ei reoli gan y Deddfau Diogelu Data. Mae gennych hawl yn unol â’r Deddfau i weld eich cofnodion personol. Os ydych am weld y wybodaeth hon, ysgrifennwch at y Swyddog Diogelu Data/ Data Protection Officer, National Savings and Investments, 375 Kensington High Street, London W14 8SD. Mae’n bosibl y codir tâl bach am y gwasanaeth hwn - wrth gwrs, byddwn yn dweud wrthych os bydd hynny’n digwydd. Am ragor o wybodaeth, gweler
Defnyddio’ch dataO bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn anfon manylion atoch am gynigion eraill gan Gynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol a allai fod o ddiddordeb i chi. Os byddai’n well gennych beidio â chael y rhain, ysgrifennwch i National Savings and Investments, Blackpool FY3 9YP. Rydym yn addo peidio â rhoi eich manylion i unrhyw sefydliad arall at ddibenion marchnata – dim ond gwybodaeth am CBC fyddwn yn ei hanfon atoch chi. Gallwch hefyd wneud cais am y manylion diweddaraf am ein cynhyrchion, cynigion, neu newidiadau i’r wefan hon drwy gyfrwng e-bost. Gallwch atal y diweddariadau e-bost ar unrhyw adeg drwy ddefnyddio’r cysylltiad sydd yn yr e-bost. Yn ôl i frig y dudalen
CwcisMae’r wefan hon yn defnyddio cwcis parhaol a chwcis dros dro. Darnau o ddata a grëir pan ewch i wefan yw cwcis, ac fe’u cedwir yng nghyfeiriadur cwcis eich gyriant caled. Nid ydym yn defnyddio cwcis i gasglu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch ond rydym yn eu defnyddio i gasglu data anhysbys eraill er mwyn gweinyddu’r wefan. Efallai y byddwn yn defnyddio cwcis parhaol, cwcis parti cyntaf a delweddau picsel-unigol anweledig i weld faint o bobl sy’n ymweld ag ymgyrch benodol neu dudalen benodol ar y we. Nid ydym yn defnyddio cwcis nag unrhyw fecanweithiau eraill i broffilio’ch gweithgaredd ar wefannau eraill. Dilëir cwcis dros dro yn awtomatig wedi’u defnyddio, ar ôl i chi gau eich holl ffenestri pori. Mae modd dileu cwcis parhaol ac ni fydd hyn yn eich atal rhag defnyddio’r wefan hon. Gallwch osod meddalwedd eich porwr Rhyngrwyd i beidio â chaniatáu defnyddio cwcis. Cewch gyfarwyddiadau am sut i wneud hyn yn ffeil Help meddalwedd eich porwr. Sylwch fod angen defnyddio cwcis dros dro ar gyfer ffurflenni cais a phrosesau eraill ar y wefan hon er mwyn iddynt allu gweithio’n iawn. Yn ôl i frig y dudalen
Newidiadau i’r polisi cyfrinachedd hwnOs bydd ein polisi cyfrinachedd yn newid, byddwn yn rhoi’r fersiwn ddiweddaraf ar y dudalen hon. Bydd adolygu’r dudalen hon yn rheolaidd yn sicrhau y byddwch bob amser yn ymwybodol o ba wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei defnyddio, ac o dan ba amgylchiadau byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill. Yn ôl i frig y dudalen
Ymholiadau ac adborthOs oes gennych unrhyw ymholiadau neu adborth am sut rydym yn defnyddio’ch data neu os hoffech ddweud wrthym am eich dewisiadau, cysylltwch â ni. Yn ôl i frig y dudalen |
Chwilio |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||
