|
|
Gwybodaeth ddefnyddiol
/
Byw DramorOs ydych yn symud i wlad dramor, rhaid i chi roi gwybod i ni fel y gallwn ddiweddaru’ch manylion. Ni ellir dal rhai o’n buddsoddiadau mewn rhai gwledydd oherwydd cyfyngiadau lleol. Gall rhai cynhyrchion hefyd fod yn agored i dreth leol. Am wybodaeth fanwl, bydd angen i chi wirio’r gyfraith neu’r rheoliadau lleol yn y wlad rydych yn symud iddi. Am arweiniad cyffredinol gweler isod: Bondiau PremiwmGall preswylwyr tramor ddal a phrynu Bondiau Premiwm os yw’r rheoliadau lleol yn caniatáu hynny er na allant wneud cais drwy ein gwefan gan fod llawer o wledydd yn gwahardd hyrwyddo loterïau dros y rhyngrwyd. Rhaid gwneud taliadau trwy gyfrwng siec mewn Sterling a dynnir ar fanc clirio’r DU ac anfon y ffurflen gais briodol gyda hi. Os oes arnoch angen ffurflen cliciwch yma. Mae cyfreithiau hapchwarae a loteri yn gwahardd dinasyddion yr Unol Daleithiau rhag derbyn gohebiaeth trwy wasanaeth post yr UD am Fondiau Premiwm. O ganlyniad, nid yw’n ymarferol dal Bondiau Premiwm tra yn yr UD gan na fyddai unrhyw ffordd i dderbyn gwobrau na’u cyfnewid am arian. Os ydych yn byw y tu allan i’r DU dylech wirio a yw rheoliadau lleol yn caniatáu i chi ddal Bondiau Premiwm. Bondiau Incwm Gwarantedig Pensiynwyr a Bondiau IncwmEr mwyn derbyn yr incwm o’r Bond, rhaid bod gan gwsmeriaid gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu y DU (neu Gyfrif Buddsoddi neu Gyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd CBC) a all dderbyn trosglwyddiadau BACS. Telir llog heb dynnu treth i ffwrdd. Fodd bynnag, mae’n ddarostyngedig i dreth incwm y DU felly bydd rhaid i fuddsoddwyr sy’n drethdalwyr y DU ddatgelu’r llog i Gyllid a Thollau EM. Bondiau Cyfalaf a Chyfrif BuddsoddiYchwanegir llog at eich Bond neu’ch cyfrif heb dynnu treth i ffwrdd. Fodd bynnag, telir treth incwm y DU ar y llog bob blwyddyn. Os ydych yn talu treth incwm y DU dylech gynnwys y llog ar unrhyw ffurflen dreth rydych yn ei hanfon i Gyllid a Thollau EM am y flwyddyn dreth yr ychwanegir y llog at eich Bond neu’ch cyfrif. Cyfrif Cynilo Mynediad RhwyddRhaid i bob cwsmer Cyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd gael cyfrif banc y DU a all dderbyn trosglwyddiadau BACS. Hefyd gellir defnyddio’r cerdyn arian parod a ddarperir gyda’r cyfrif mewn Swyddfeydd Post a pheiriannau arian y DU. Mini ISA arianDylech roi gwybod i ni os ydych yn peidio â bod yn breswylydd yn y DU at ddibenion treth. Ni ellir gwneud taliadau pellach i mewn i’ch ISA hyd oni fyddwch yn bodloni cymwysterau preswylio’r DU eto. Cyfarwyddeb Treth Cynilion yr UEDeddfwriaeth sy’n ymwneud â threth mewn gwledydd yr UE a thiriogaethau cysylltiedig yw’r Gyfarwyddeb Treth Cynilion yr UE. Prif ddiben y Gyfarwyddeb yw caniatáu i awdurdodau treth yng ngwledydd yr UE a thiriogaethau cysylltiedig rannu gwybodaeth am daliadau incwm cynilion (hy taliadau llog) a wneir i unigolion. Mae hyn er mwyn sicrhau bod cynilwyr a buddsoddwyr yn talu’r swm iawn o dreth ar eu hincwm o’u cynilion. |
Chwilio
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||||
